Ar hyn o bryd, mae’r Antur yn rhoi cefnogaeth i dros 67 lleoliad gwaith yn ôl dewis a gallu’r unigolion. Mae’r cyfleoedd yma yn cynnwys y dewisiadau canlynol:
- Arlwyo a gweini yng Nghaffi Blas y Waun
- Cadwraeth y Parc Natur
- Creu crefftau gyda deunyddiau sydd wedi eu hailgylchu
- Gwerthu dillad a dodrefn wedi eu hail-ddefnyddio
- Cyfarch a gofal cwsmer
- Cynorthwyo gyda’r siop e-fasnach
- Casglu, didoli a llarpio gwastraff papur
- Didoli, casglu a thrin tecstiliau
- Datblygu sgiliau Byw’n Annibynnol adref ac yn y gweithle
- Datblygu sgiliau cymdeithasu a gweithgareddau hamdden
- Ennill profiad a chyfleoedd siopa’n annibynnol
- Garddio a thyfu llysiau
- Gwaith coed, trin ac ail-ddefnyddio dodrefn
- Gwaith gweinyddol yn y swyddfa
- Trwsio, llogi a gwerthu beics o Beics Antur
Mae lleoliadau gwaith yr unigolion ag anableddau dysgu yn gallu amrywio yn unol â’u dewis a dymuniad. Un enghraifft byw o hyn yw unigolyn sydd yn gwneud gwaith swyddfa am dri diwrnod yr wythnos gan dreulio diwrnod yr wythnos yn ein safle yn Nghaergylchu a diwrnod arall yn y Warws Werdd allan yn y gymuned yn gweithio ar y cynllun dillad.