Gall Antur Waunfawr gynnig amrywiaeth o wasanaethau ar gyfer unigolion dros 18 oed sydd ag anableddau dysgu neu gorfforol.
Mae’r Antur yn cynnig cymorth 24-awr yn y cartref a’r gweithle ar gyfer oedolion ag anawsterau dysgu, trwy ddarparu staff cymorth arloesol a phrofiadol. Mae’r cymorth yn cael ei deilwra i anghenion penodol yr unigolyn.
Mae’r Antur hefyd yn gweithredu cynllun gwyliau a hamdden, a gofal personol ar gyfer y rhai sydd ag anghenion dwys.
Rhestr fer, Gwobrau Elusennau Cymru, Ymddiriedolwyr Rhagorol 2019
Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru, Gwobr Menter Gymdeithasol Iechyd a Gofal Cymdeithasol y flwyddyn 2018
Gwobr Host Lleoli Gogledd a Chanolbarth Cymru – Gwobrau Canolfan Waith 2016
Menter Gymdeithasol y Flwyddyn 2015
Rhagoriaeth mewn Byw â Chymorth a Gofal 2015
Darllenwch yr Adroddiad Arolygu diweddaraf a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gofal Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ym mis Tachwedd 2017, yn adolygu safonau gofal Antur: