Credwn bod datblygu staff drwy hyfforddiant priodol yn allweddol i ateb anghenion ein gwasanaethau presennol, ac at y dyfodol.
Staff yw un o asedau pwysicaf yr Antur ac mae’n holl bwysig bod unigolion yn cyrraedd eu potensial ac yn teimlo yn hyderus yn eu gwaith. Mae gan yr Antur Gynllun Hyfforddiant a Datblygu blynyddol sydd yn seiliedig ar flaenoriaethau y corff ac sydd yn sicrhau ein bod fel cyflogwr yn ateb anghenion staff, anghenion y gwasanaeth, yn ogystal â gofynion statudol a chyfreithiol. Amlinellwn isod ein prif flaenoriaethau hyfforddiant:
- Rhaglen hyfforddiant rheoli ac arweinyddiaeth dros gyfnod o ddwy flynedd – cyrsiau byr a chyrsiau tymor hi.
- Hyfforddiant Technoleg Gwybodaeth gyda’r pwyslais ar y lefel sgiliau priodol i ofynion y swydd.
- Hyfforddiant Galwedigaethol yn y maes Gofal sydd yn bodoli ers dwy flynedd – Lefel 2, 3 a 4.
- Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch sydd yn cwmpasu trawsdoriad eang o feysydd angenrheidiol yn y maes.
- Hyfforddiant arbenigol i gydfynd â datblygu ein gwasanaeth aml-ofynion.