Fel cyflogwr, mae’r Antur yn credu yn gryf mewn datblygu unigolion i’w llawn potensial gan adnabod talent ar gyfer llwyddiant y Cwmni.
Unigolion ag Anableddau Dysgu
- Darperir cyfleoedd sy’n ateb gofynion ystod eang o bobl:-
- Unigolion ag anableddau dysgu sydd â sgiliau uchel.
- Unigolion a gofynion cymhedrol sydd â sgiliau penodol.
- Gwasanaeth therapiwtig newydd ar gyfer unigolion ag aml-ofynion.
- Cyfleoedd cymdeithasol, hamdden a gwyliau.
Cyfleoedd Gwaith
- Trawsdoriad o gyfleoedd gwaith sydd yn cynnwys swyddi yn y maes gofal, ailgylchu, ailddefnyddio, rheoli a gweinyddol.
- Darparu profiadau gwaith ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd, colegau lleol, myfyrwyr prifysgol ac ysgolion arbennig.
- Rhedeg cynlluniau Prentisiaethau sydd yn adeiladu capasiti unigolion yn ôl i’r gwaith.
- Profiadau gwirfoddoli ar gyfer oedolion.