Mae tymor y Nadolig yn agosáu, ac mae pawb yn yr Antur yn edrych ymlaen at beth sydd ar y gweill dros y wythnosau i ddod.
Blwyddyn yma, fydd y criw yn mynd â’u crefftau, torchau a’u hamperi at Ffair ‘Dolig Ysgol Brynrefail ar 19 o Dachwedd, ag unwaith eto at Ffair ‘Dolig Ysgol Pendalar ar 1 o Ragfyr. Cofiwch alw draw i’n gweld os ydych o gwmpas!
Bydd ein siop grefftau i fyny yn Waunfawr ar agor o ddydd Llun-dydd Gwener, 9.00 y.b. tan 4.00 y.p., yn cynnig crefftau, anrhegion ac addurniadau arbennig. Beth am alw draw am ysbrydoliaeth, a chael coffi a chacen yn ein caffi tra eich bod yno?
Bydd ffair Nadolig yr Antur, sef Miri Sïon Corn yn digwydd ar nos Wener, 27 o Dachwedd, i ddechrau am 6.30 y.h. Flwyddyn yma, bydd plant Ysgol Waunfawr a Genod Gwyrfai yn ymuno â ni i ganu carolau. Hefyd, fe fydd stondinau di-rif llawn syniadau am anrhegion ‘Dolig, gwin cynnes a mins peis yn y caffi, a chyfle i gyfarfod y dyn ei hun, Sïon Corn!
O 16 o Dachwedd tan 18 o Ragfyr, bydd Caffi Blas y Waun yn cynnig ciniawau ‘Dolig tri-chwrs. Cewch fwyd cartref bendigedig, mewn awyrgylch cynnes a chyfeillgar, i gyd am £15.95! Archebwch eich lle rŵan!
Bydd y Caffi hefyd yn cynnig cyfle i fwyta Brecwast efo Sion Corn, ar y 21, 22 a 23 o Ragfyr am 10.00 y.b. Ffoniwch dîm y Caffi am fwy o wybodaeth!
Fel y gwelwch, mae’r wythnosau nesaf am fod yn rhai llawn hwyl ac ysbryd y Nadolig! Felly peidiwch â meddwl dwywaith … dewch i ddathlu gyda ni!