Gweithiwr Cefnogol Iechyd a Llesiant

Lleoliad:    Cytundeb:   

Ymunwch â’n Tîm fel Gweithiwr Cefnogol Anabledd Dysgu!

Ydych chi’n angerddol am wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau unigolion? Oes gennych chi’r sgiliau i gefnogi unigolion ag anableddau dysgu i gyflawni eu  llawn potensial? Os felly, rydym ni eisiau i chi ymuno â’n tim!

Amdanom ni:

Yn Antur Waunfawr, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth a gofal o ansawdd uchel i unigolion ag anableddau dysgu. Rydym yn credu mewn creu amgylchedd cynhwysol lle gall pawb ddatblygu, ac rydym yn chwilio am unigolion medrus i ymuno â ni ar ein siwrna.

Yr hyn sydd yn cael ei gynnig:

  • Gwaith lle rydych yn rhoi yn ôl i’r gymuned: Byddwch wir yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau’r rhai yr ydych yn eu cefnogi.
  • Hyfforddiant Cynhwysfawr: Datblygiad proffesiynol parhaus a hyfforddiant i’ch helpu i dyfu yn eich rôl.
  • Amgylchedd Gwaith Cefnogol: Gweithio gyda thîm cyfeillgar a chefnogol
  • Cyflog Cystadleuol: Pecyn tâl deniadol gyda buddion.
  • Opsiynau gwahanol o ran oriau: Rydym yn hyblyg o ran oriau, os oes ganddoch y sgiliau sydd ei hangen, gallwn weithio o gwmpas yr oriau y gallwch ei gynnig.

Eich rôl:

Fel Gweithiwr Cefnogol, byddwch yn:

  • Grymuso Unigolion: Cynorthwyo unigolion i ddatblygu sgiliau ar gyfer annibyniaeth a thwf personol.
  • Rhoi Gofal Personol: Darparu gofal wedi’i deilwra yn seiliedig ar anghenion a dymuniadau unigol.
  • Ymgysylltu ac Ysbrydoli: Annog cyfraniad mewn gweithgareddau cymdeithasol, addysgol ac hamddenol.

Yr Hyn yr Ydym yn Chwilio Amdano:

  • Ymrwymiad: Dymuniad gwirioneddol i helpu eraill.
  • Sgiliau Cyfathrebu Ardderchog: Y gallu i gysylltu ag unigolion o gefndiroedd amrywiol.
  • Sgiliau Datrys Problemau: Y gallu i drin sefyllfaoedd heriol  mewn ffordd arloesol, gan sicrhau fod anghenion yr unigolion yn flaengar.
  • Chwaraewr Tîm: Parodrwydd i weithio’n gydweithredol gyda chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.
  • Profiad: Mae profiad blaenorol mewn rôl debyg yn fanteisiol, ond nid yn hanfodol. Rydym yn gwerthfawrogi angerdd ac ymrwymiad.

Sut i Wneud Cais:

A ydych chi’n barod i wneud gwahaniaeth? Gallwch ymgeisio am y swydd drwy  CLICIO YMA. Am fwy o wybodaeth,  ffoniwch ni ar 01286 650721 neu danfonwch e-bost i swyddi@anturwaunfawr.cymru

 

Cliciwch yma i ddarllen y pecyn swydd

Cliciwch yma i wneud cais ar-lein