Hoffai Antur Waunfawr ddiolch i’r Criw Dydd Mawrth am eu haelioni anhygoel ddoe.
Wnaeth y Criw Dydd Mawrth dod at ei gilydd ar y cwrs golff ym Mhenmaenmawr yn ôl yn 2003, pan wnaeth pedwar ffrind (Merlin Owen, Vivian Williams, Arwel Jones – tri aelod o Hogia’r Wyddfa – a’r actor John Ogwen) penderfynu chwarae golff bob dydd Mawrth o’r diwrnod hwnnw ymlaen. Erbyn 2012, roedd nifer y chwaraewyr wedi cynyddu i dros 100.
I ddechrau, roedd yr arian a gesglir yn mynd i enillydd y gêm ond, ar awgrymiad Bryn Terfel, un o’r selogion cynnar, dechreuodd y grŵp gasglu’r arian dros flwyddyn, ac yna rhannu’r cyfanswm a gasglwyd rhwng achosion da lleol.
Eleni, dewiswyd yr Antur fel eu helusen, ac yr ydym i gyd yn hynod ddiolchgar iddynt am hyn. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer diwrnod arbennig allan i’n gweithwyr!