Gwarchod ein hamgylchedd yw un o brif amcanion Antur Waunfawr ac rydym wedi gwirioni clywed bod Cymru bellach wedi cyrraedd yr ail safle ar draws y byd am ailgylchu gwastraff cartref.
Nod Antur yw cynyddu cyfraddau cyfranogi ailgylchu ac ailddefnyddio adnoddau, ac mae safle Caergylchu, a sefydlwyd mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, yn ailgylchu dros 300 tunnell o bapur ac yn trin dros 1000 tunnell o blastig bob blwyddyn.
Dywedodd Haydn Jones, rheolwr safle Caergylchu: “Rydym wrth ein bodd yn clywed bod Cymru yn yr ail safle ar draws y byd am ailgylchu gwastraff cartref. Yma yng Nghaergylchu, byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau ein bod yn helpu Cymru i gyrraedd targedau o ailgylchu 70% o wastraff cartref erbyn 2020.
“Mae’n wych gallu chwarae rhan i wella ein hamgylchedd, a helpu i sicrhau dyfodol iach i’n planed.”
Yn ogystal â’r ganolfan ailgylchu, mae Antur Waunfawr yn rhedeg siop ddodrefn Warws Werdd, sy’n gwerthu dodrefn a dillad ail-law, ac yn ailddefnyddio dros 150 tunnell o ddodrefn, dillad a sgrap bob blwyddyn.
Dywedodd Huw Davies, Dirprwy Brif Weithredwr yr Antur: “Yma yn yr Antur, rydym yn ceisio lleihau faint o wastraff y mae trigolion Gwynedd yn ei anfon i safleoedd tirlenwi, ac mae’n cyfleusterau ailddefnyddio yn casglu o drefi a phentrefi ledled Arfon a Dwyfor.
“Mae rhaglen deledu Blue Planet, er enghraifft, wedi dangos i ni pa mor bwysig yw ailgylchu, a bod angen gwneud llawer rhagor. Bydd Antur Waunfawr yn parhau i ddefnyddio ein harbenigedd yn y maes hwn i hyrwyddo ailgylchu ac ailddefnyddio.”