Tirmon yw un o brosiectau cyfredol Antur, sy’n hybu hunangynhaliaeth a bwyta’n iach. Ers 2013, mae staff a thîm o unigolion sydd yn derbyn gwasanaeth gan yr Antur wedi bod yn meithrin rhan o’r tir yn y brif safle yn Waunfawr, ac yn tyfu amrywiaeth helaeth o lysiau a pherlysiau. Mae wyau ffres hefyd ar y fwydlen, gan fod y tîm yn edrych ar ôl nythaid o gywion ieir, ac mae cynlluniau ar y gweill i fridio moch.