Mae’r Antur yn dathlu ar ôl derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn rhedeg prosiect newydd ar gyfer hyrwyddo iechyd a llesiant a recriwtio gwirfoddolwyr.
Mae’r prosiect newydd, a elwir yn ‘Sgiliau Antur’ yn brosiect tri mis wedi ei ariannu gan Y Gronfa Gofal Ganolradd – Grant Anableddau Dysgu ac Anghenion Cymhleth gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag Asiantaeth Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae’r Antur yn gobeithio recriwtio gwirfoddolwyr i redeg sesiynau arbenigol mewn pedwar maes gwahanol; gwaith llaw a chelf a chrefft; cerdded a ffitrwydd; beicio; a thyfu llysiau a bwyta’n iach.
Mae’r prosiect hefyd yn ffurfio partneriaeth rhwng Antur Waunfawr ac Age Cymru Gwynedd a Môn, ar y cyd a’u prosiect ‘Men’s Sheds – Hogia Ni’, sydd yn targedu dynion dros 50 oed. Mae ymchwil yn dangos fod dynion hŷn yn ganran o’r boblogaeth sy’n aml ddim yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, a gall hyn achosi unigrwydd a phroblemau iechyd. Wrth gynnig cyfleoedd gwirfoddoli, mae’r Antur yn cynnig y cyfle i’r gwirfoddolwyr basio eu sgiliau ymlaen a chael hwyl mewn amgylchedd cymdeithasol.
Dywedodd Menna Jones, Prif Weithredwraig: “Rydym yn ymwybodol o’r nifer o effeithiau positif o gael gwirfoddolwyr yn gweithio gyfochrog a’n cleientiaid yn yr Antur – mae’n rhoi’r cyfle iddynt gyfarfod a phobl newydd a dysgu sgiliau newydd, a caiff y gwirfoddolwyr y pleser o rannu eu hamser a’u gwybodaeth.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli efo’r Antur, cysylltwch ag Elain Hughes ar 01286650721, neu e-bostiwch elain.hughes@anturwaunfawr.cymru.