Mae Antur Waunfawr yn helpu i wyrdroi dirywiad natur, diolch i gynllun gardd newydd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus.
Mae ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ yn cynnig pecynnau am ddim i gymunedau, sy’n cynnwys yr holl blanhigion, offer a deunyddiau sydd eu hangen i greu gerddi bach.
Mae Antur Waunfawr yn darparu cyfleoedd gwaith ac iechyd a llesiant i oedolion ag anableddau dysgu yn eu cymunedau. Mae unigolion a staff wedi bod yn brysur yn plannu gardd ffrwythau yn y Warws Werdd, Caernarfon. Mae’r Warws Werdd yn weithdy ailddefnyddio ac ailgylchu dodrefn a dillad, gyda siop lle gall pobl brynu eitemau ail law, a lleihau’r canran o wastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.
Dywedodd Dorothy Howarth, Swyddog Gweinyddol Warws Werdd, a drefnodd y cais am yr ardd ffrwythau: “Rydym yn ddiolchgar iawn ein bod wedi derbyn pecyn ‘Lleoedd Natur Lleol’ gan Cadwch Gymru’n Daclus, mae’n golygu ein bod wedi gallu trawsnewid y man glaswellt wrth ymyl ein maes parcio i mewn i ardd ffrwythau a pherlysiau.
“Rydym ni wedi bod yn defnyddio teiars wedi’u hailgylchu wedi’u paentio fel planwyr i drawsnewid y lleoliad, felly mae’r ardd ffrwythau yn ychwanegiad gwych i’r holl waith rydym ni wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar. Mae’r unigolion wedi mwynhau’r sesiynau garddio prynhawn yn fawr iawn, a bydd yr ardd yn rhoi’r cyfle iddynt ddysgu am dyfu a chynaeafu ffrwythau a pherlysiau, y gallwn wedyn eu defnyddio mewn ryseitiau cartref!”
Bydd y prosiect garddio yn plethu mewn gyda datblygiad newydd Antur Waunfawr ar y safle, sef prosiect Sied Werdd. Derbyniwyd grant o £300,000 gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Sied Werdd mewn partneriaeth efo Cyngor Gwynedd, er mwyn gwella isadeiledd a chynyddu tunelledd ailgylchu ac ailddefnyddio’r sir. Bydd y prosiect garddio yn cynnig cyfleoedd ehangach i’r unigolion ddysgu am gynaladwyedd a gwarchod yr amgylchedd.
Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwraig Cadwch Gymru’n Daclus, Louise Tambini: “Yn fwy nag erioed, mae pobl yn cydnabod gwerth natur i iechyd a llesiant ein cymunedau. Rydym yn falch iawn bod grwpiau, fel Antur Waunfawr, bellach yn cael cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn trwy ‘Lleoedd Lleol i Natur’.
“Rydym ni’n gwybod bod yna lawer o feysydd eraill a allai elwa o’r cynllun, ac rydyn ni’n annog pobl i gymryd rhan tra bod pecynnau am ddim ar gael o hyd.”
Mae’r fenter yn rhan o gronfa ehangach ‘5 Lle Lleol i Natur’ Llywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i gaffael, adfer a gwella natur ‘ar garreg eich drws’.
Mae pecynnau ar gael o hyd i grwpiau a sefydliadau cymunedol. I wneud cais am Leoedd Naturiol Lleol i Natur, ewch i www.keepwalestidy.cymru/nature