Roedd Menter Gymdeithasol Antur Waunfawr yn falch iawn o groesawu cynrychiolwyr o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig draw, i ddangos y gwaith pwysig mae’r elusen yn wneud wrth gefnogi unigolion gydag anableddau dysgu.
Sefydlwyd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig (BIC) ugain mlynedd yn ôl i ddarparu fforwm ar gyfer ymgynghori a chydweithredu ar ynysoedd Prydain ac Iwerddon, a hyrwyddo perthnasau ymarferol a phositif rhwng y bobl ar yr ynysoedd hyn.
Roedd yr ymweliad ag Antur Waunfawr yn rhan o ymweliad ehangach â Gogledd Cymru gan sector Cynhwysiant Cymdeithasol BIC, ac yn caniatáu i swyddogion o’r arfordiroedd hyn i ymweld ag enghreifftiau o fentrau cymdeithasol rhagorol ac arloesol yn y rhanbarth.
Mae Antur Waunfawr, sy’n dathlu 35 mlwyddiant eleni, yn fenter gymdeithasol flaenllaw yn yr ardal, sy’n darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i unigolion ag anableddau dysgu yn eu cymuned. Ar hyn o bryd, mae’r elusen yn cyflogi dros 100 o staff ac yn cefnogi 67 o unigolion ag anableddau dysgu.
Ymwelodd cynrychiolwyr y cyngor â thri o brosiectau Antur Waunfawr; Beics Antur, sef busnes llogi beics hygyrch wedi’i leoli yng Nghaernarfon; Warws Werdd, prosiect ailddefnyddio dodrefn a dillad; a’u prif safle yn Waunfawr sy’n gartref i gaffi, parc chwarae hygyrch, gerddi a siop grefftau.
Dywedodd Menna Jones, prif weithredwraig Antur Waunfawr: “Roedd hi’n bleser croesawu cynrychiolwyr o’r BIC, a chael dangos y prosiectau cyffrous sy’n digwydd yma yn Antur Waunfawr. Rydyn ni’n rhoi pwyslais mawr ar wella iechyd a llesiant, ac roedd yn wych cael rhannu ein gweledigaeth gyda’r aelodau, yn enwedig ein cynlluniau ar gyfer ein prosiect Beics Antur ym Mhorth yr Aur yng Nghaernarfon, a fydd yn darparu cyfleoedd beicio cynhwysol a ‘Porth Llesiant’ ar gyfer y gymuned leol. ”
Dywedodd Jerry O’Donovan, cyd-bennaeth BIC: “Roeddem wrth ein bodd i gael cyfle i ymweld ag Antur Waunfawr a mwynhau eu lletygarwch cynnes a’u mewnwelediad clir o sut mae rhedeg menter gymdeithasol lwyddiannus.
“Gellid defnyddio’r wybodaeth a gafwyd o’r ymweliad hwn i wella polisi o fewn aelodau’r Cyngor, a bydd yn llywio ein gwaith wrth nodi cyfleoedd cydweithio pellach mewn maes gwaith sy’n bwysig i’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.”