Mae archeolegwyr wedi bod yn cynnal ymchwiliad archeolegol ar safle newydd siop feics Antur Waunfawr, sef Beics Menai, yn iard Porth yr Aur yng Nghaernarfon.
Cwblhawyd pryniant y safle ym mis Tachwedd gan Antur Waunfawr, menter gymdeithasol leol sy’n darparu cyfleoedd gwaith i oedolion ag anableddau dysgu. Bydd yr adeilad yn cynnig mwy o le i’r Antur ddatblygu ac ehangu’r busnes beics, sydd ar hyn o bryd wedi’i leoli ar y Cei Lechi yng Nghaernarfon.
Mi roedd yr iard gynt yn eiddo i gwmni cludiant lleol, Pritchard Bros, ac mae’n gyffiniol at waliau canoloesol y dref, sydd wedi’u dynodi’n Heneb Restredig gan CADW. Mae waliau’r dref yn ffurfio rhan o’r adeilad ei hun, ac yn gwahanu iard Porth yr Aur o’r Clwb Hwylio Brenhinol drws nesaf
Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan CR Archaeology, uned archeolegol annibynnol yn Nyffryn Conwy.
Wedi’i adeiladu yn 1283 gan Frenin Edward I, mae waliau’r dref yn ymgorffori Castell Caernarfon ac fe’u hadeiladwyd i amddiffyn y fwrdeistref newydd. Porth yr Aur, neu ‘Golden Gate’, oedd y brif fynedfa atfor i’r fwrdeistref ganoloesol, ac felly yn rhan integrol o Wall Tref Caernarfon.
Dywedodd Matthew Jones, o CR Archaeology: ‘Wrth gynnal yr arolwg ar y safle, daethom ar draws llawr cobls diddorol. Yn anffodus, nid oedd unrhyw ddarganfyddiadau i roi dyddiad pendant i’r llawr, ond mae’n debyg ei bod yn dyddio o’r 18fed / 19eg ganrif ac yn perthyn i’r i’r tŷ a wynebodd y stryd fawr ar y pryd. ”
Dywedodd Menna Jones, prif weithredwr Antur Waunfawr: “Rydym yn falch o’r cyfle i brynu safle sy’n chwarae rhan mor bwysig yn hanes Caernarfon. Roedd yn gyffrous iawn i weld beth oedd yr arolwg archeolegol wedi’i darganfod! Dydych chi byth yn gwybod, efallai y byddwn yn dod o hyd i lawer mwy o ddarganfyddiadau diddorol wrth i’r gwaith adeiladu ddechrau!
“Yn y cyfamser, bydd Beics Menai yn parhau i weithredu o Porta Cabin dros dro, wedi’i leoli ar y safle newydd.”