Mae Antur Waunfawr ar y rhestr fer am wobr genedlaethol yn dilyn llwyddiant yr elusen yng ngwobrau Busnesau Cymdeithasol Cymru, a gyflwynwyd gan Wales Coop yng Nghaerdydd eleni.
Mae Antur Waunfawr yn darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i oedolion ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru, ac enillwyd y wobr menter gymdeithasol Iechyd a Gofal Cymdeithasol y flwyddyn Cymru ym mis Medi. O ganlyniad, enwebwyd yr elusen ar gyfer y Wobr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngwobrau mawreddog ‘UK Social Enterprise’ yn Llundain.
Bydd y seremoni yn cael ei chynnal yn Neuadd Guild Llundain ar 28 Tachwedd, a chyflwynydd y noson fydd y comedïwr enwog Mark Watson. Mae’r gwobrau’n cydnabod sefydliadau am eu rhagoriaeth busnes a’u cyfraniad i’r gymdeithas, ac maent hefyd yn gyfle i fentrau cymdeithasol rwydweithio gyda’u cyfoedion ac arweinwyr y sector.
Enwebwyd Antur Waunfawr yn dilyn ei hymroddiad i wella iechyd a llesiant oedolion ag anableddau dysgu. Derbyniodd y fenter gymdeithasol grant gan y Gronfa Gofal Integredig yn 2017 ac ers hynny mae wedi sefydlu rhaglen weithgareddau llesiant rheolaidd, sy’n cynnwys beicio, dosbarthiadau ffitrwydd, marchogaeth a mwy.
Dywedodd Menna Jones, Prif Weithredwraig Antur Waunfawr: “Rydym wrth ein bodd cael ein henwebu ar gyfer y wobr genedlaethol hon. Mae’n dyst i ymroddiad ein staff sy’n gweithio mor galed i ddarparu gwasanaeth gofal o’r safon uchaf i oedolion ag anableddau yn eu cymuned.”