Ailgylchu ac Adnewyddu Offer TG
Mewn partneriaeth â North Wales Recycle IT
Mae Antur Waunfawr a North Wales Recycle IT wedi dod ynghyd i gynnig gwasanaeth newydd i gasglu offer TG diangen neu wedi torri ar draws Gwynedd a Môn.
Byddwn y neu clirio ac ailgylchu’r offer yn gyfrifol – ac os yw rhai eitemau’n dal mewn cyflwr da, byddwn yn eu hadnewyddu a’u rhoi i’r gymuned leol.
Pam Ailgylchu’ch offer TG?
- Lleihau Gwastraff: Gwaredu’n gywir ar offer TG diangen a thorredig.
- Cefnogi Cynaliadwyedd: Helpu i leihau effaith amgylcheddol gwastraff electronig.
- Rhoi yn Ôl: Bydd rhywfaint o’r offer sydd mewn cyflwr da yn cael ei adnewyddu a’i roi i drigolion a sefydliadau lleol sydd mewn angen.
Rydym yn derbyn:
- Gliniaduron a chyfrifiaduron
- Tabledi a ffonau symudol
- Argraffwyr a monitoryddion
- Bysellfyrddau, llygoden, a chysylltiadau eraill
- Dyfeisiau hen neu wedi torri (peidiwch â phoeni os nad ydynt yn gweithio!)
Sut mae’n gweithio:
- Archebwch gasgliad – Defnyddiwch y ffurflen isod. https://form.jotform.com/Wales_admin/pilot-scheme-collection-details
- Casglu gan Antur Waunfawr– Rydym yn casglu o’ch cartref, busnes neu sefydliad.
- Gwaredu diogel gan North Wales Recycle IT – Caiff pob dyfais ei glirio’n llwyr a’i hailgylchu’n gyfrifol.
- Rhoi yn ôl – Bydd offer defnyddiol yn cael eu hadnewyddu a’u rhoi i eraill yn lleol.
Cost: Bydd y gost yn dibynnu ar y math a nifer yr eitemau. Bydd North Wales Recycle IT yn cysylltu â chi gyda dyfynbris wedi i chi lenwi’r ffurflen archebu.
Pam mae hyn yn bwysig:
- Cadwch e-wastraff allan o safleoedd tirlenwi
- Cefnogi teuluoedd, ysgolion ac elusennau yng Ngwynedd a Môn
- Hyrwyddo economi gylchol a dyfodol gwyrddach
Cliciwch Yma i drefnu casgliad a bydd aelod o’r tim mewn cyswllt.
Mae eich data yn ddiogel. Caiff pob dyfais ei glirio’n broffesiynol cyn ei hailddefnyddio neu ei hailgylchu.