Gweledigaeth R. Gwynn Davies, a chefnogaeth gref pobl ardal Waunfawr fu’n gyfrifol am sefydlu Antur Waunfawr yn 1984. Erbyn hyn, mae’n Fenter Gymdeithasol flaenllaw sy’n darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu yn eu cymuned.
Dros 35 mlynedd yn ôl, roedd cwmni elusennol fel Antur Waunfawr, a gynigai waith go-iawn gyda phwrpas iddo i bobl gydag anableddau dysgu, yn arloesol. Cyn hynny, derbyn gofal a gwaith mewn canolfannau arbennig oedd yn wynebu’r bobl yma. Dangosodd Antur Waunfawr mai trwy roi cyfleoedd iddynt weithio allan yn y gymuned, a thrwy hynny wasanaethu’r gymdeithas, y byddent yn cael eu derbyn fel dinasyddion cydradd.
Dros y blynyddoedd, datblygodd y cwmni, ac mae’r fenter gymdeithasol erbyn heddiw yn cyflogi dros 100 aelod o staff, ac yn cefnogi dros 65 o oedolion gydag anableddau dysgu.
Mae Antur Waunfawr wedi ymrwymo i ddatblygu mewn ffordd cynaladwy – sy’n golygu bod gwarchod yr amgylchedd naturiol a datblygu busnesau gwyrdd yn greiddiol i werthoedd y Cwmni. Gweledigaeth Antur fodd bynnag, yw plethu hyn gyda’r cysyniad o integreiddio pobl ag anawsterau dysgu i bob agwedd o’n gwaith. Mae’r prosiectau ailgylchu yn rhan allweddol o’r integreiddio hwn, ac mae Caergylchu, y Warws Werdd a Beics Antur yn cynnig ystod eang o brofiadau gwaith a hyfforddiant.
I ddarllen ein Pecyn Gwybodaeth, cliciwch yma.
Mae Antur Waunfawr wedi derbyn “Tystysgrif Achrededig” gan WCS.