Manteisiwch ar y cyfle gwych yma!
Gan weithio mewn partneriaeth â Choleg Harlech, mae Antur Waunfawr yn falch o allu cynnig dau gwrs 5-diwrnod Waliau Sych yn rhad ac am ddim! Dan arweiniad tiwtor o Goleg Harlech, bydd y cyrsiau’n cynnig cyflwyniad i wahanol ddulliau o godi wal gerrig, a byddant yn cael eu cynnal ym mharc yr Antur yn Waunfawr.
Dyddiadau:
Dydd Llun, 21 Medi – dydd Gwener, 25 Medi, 2015 (10.00 y.b. – 3.30 y.p.)
Dydd Llun, 19 Hydref – dydd Gwener, 23 Hydref, 2015 (10.00 y.b. – 3.30 y.p.)
Er mwyn mynegi eich diddordeb, e-bostiwch:
Gwenlli Wynne (Gwenlli.Wynne@anturwaunfawr.org), neu
Llio Haf Jones (Llio.Jones@anturwaunfawr.org)
neu ffoniwch 01286 650 721, a gadael eich manylion cyswllt (enw, cyfeiriad, a rhif ffôn) .
MAE LLEFYDD YN BRIN, FELLY’R GYNTAF I’R FELIN CAIFF FALU!
Noder os gwelwch yn dda: Bydd angen i chi ddarparu dillad gwrth-ddŵr, esgidiau blaen dur, menig amddiffynnol a phecyn bwyd eich hun.