Tuk Tuk Drwy’r Dre

Taith hanesyddol ar dri olwyn efo Beics Antur

Neidiwch i mewn i’n Tuk Tuk trydanol – am drip fel ‘rioed o’r blaen!
Beth am ddarganfod hanes lliwgar Caernarfon mewn ffordd newydd, wahanol a lot o hwyl?

Ar daith Tuk Tuk Drwy’r Dre, mi gewch chi fynd ar daith hamddenol o amgylch strydoedd Caernarfon, yn gwrando ar straeon, ffeithiau od a chwedlau lleol – i gyd o gysur tuk tuk trydanol.

Beth i’w Ddisgwyl

Mae ein tywysydd lleol clên yn dod â hanes y dre yn fyw – o furiau’r castell i’r corneli cudd, o’r hen farchnadoedd i’r promenâd. Bydd y daith yn llawn straeon difyr, chwerthin a gwybodaeth fydd yn aros gyda chi am byth.

-Hwyl i bobl o bob oed
-Gwybodaeth ddifyr heb fod yn rhy ffurfiol
-Eco-gyfeillgar, tawel a chynnes
-Llwyth o gyfleoedd i dynnu lluniau!

Pris
£35 y daith – i 2 berson
Tua 45 munud o hyd

Lleoliad Cychwyn
Beics Antur, Porth yr Aur, Caernarfon

Amseroedd Teithiau
Yn rhedeg bob dydd Llun- Dydd Gwener rhwng 9y.b- 4y.p(tywydd yn caniatáu)

Archwbwch rŵan drwy cysylltwch efo ni ar: 01286 672622 / beics@anturwaunfawr.cymru

Rhannwch eich antur!
Tagiwch ni ar Instagram neu Facebook: @beicsantur #TukTukDrwyrDre

Byddwn wrth ein bodd yn gweld eich lluniau a’ch straeon.

Wedi’i bweru gan Beics Antur
Rydym yn hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy ac yn falch o rannu hanes lleol mewn ffordd sy’n ffeind i’r blaned.