Rhestr Prisiau Gweithdy
Gwasanaeth Sylfaenol: £30
- Archwiliad diogelwch llawn
- Gwirio ac addasu gerau
- Gwirio ac addasu breciau
- Gwirio cadwyn a gyriant cadwyn am draul, ac iro cadwyn
- Gwirio olwynion ac archwilio teiars am draul, ac addasu pwysedd yn unol â hynny
(Nid yw unrhyw ddarnau ychwanegol sydd eu hangen yn cael eu cynnwys yn y pris)
Gwasanaeth i Gymudwyr: £50
Popeth a gynhwysir yn y gwasanaeth sylfaenol a mwy –
- Olwynion
- Gwirio both a chamog olwyn am ddifrod a thraul
- Gwirio berynnau am lacrwydd ac addasu yn unol â hynny
- Gwirio olwynion
- Gwirio penset am lacrwydd ac addasu yn unol â hynny
- Gwirio braced gwaelod am symudiad rhydd, ac addasu yn ôl yr angen
- Tynnu gyriant, glanhau, gwirio cadwyn a chasét am draul, a’u hiro
- Addasu gosodiad y beic i weddu’r i’r beiciwr
(Nid yw unrhyw ddarnau ychwanegol sydd eu hangen yn cael eu cynnwys yn y pris)
Gwasanaeth Elitaidd: £80
Popeth yn y gwasanaeth sylfaenol a chymudo a mwy –
- Glanhau beic a chydrannau’n llwyr
- Tynnu, glanhau ac iro’r braced gwaelod
- Tynnu, glanhau ac iro’r penset
- Ceblau gêr newydd (darnau’n gynwysedig)
- Ceblau brêc newydd (darnau’n gynwysedig)
(Nid yw unrhyw ddarnau ychwanegol sydd eu hangen yn cael eu cynnwys yn y pris, oni bai am y rhai sydd wedi eu nodi)
Gwaith Arall:
- Adeiladu Beic (sydd heb gael ei brynu yn Beics Antur) – £25
- Gwaedu brêc hydrolig – £15 y brêc (yn cynnwys hylif)
- Gosod penset – £15
- Gwirio olwynion – £12.50 yr olwyn (ynghyd â £1 am bob sbocsen newydd)
- Cyweirio gêr/brêc/newid cebl – £6 yr un neu £10 y pâr (ceblau heb eu cynnwys os oes angen)
- Gosod tâp bar – £10 (tâp heb ei gynnwys)
- Gwasanaethu both olwyn – £10
- Gwasanaethu/amnewid braced gwaelod – £10
- Newid cadwyn – £5
- Newid pad brêc – £4 y brêc
- Newid tiwb mewnol – £2 (pan mae’r tiwb mewnol yn cael ei brynu ym Meics Antur)
(Nid yw unrhyw ddarnau ychwanegol sydd eu hangen yn cael eu cynnwys yn y pris, oni bai am y rhai sydd wedi eu nodi)
Am waith arall heb ei nodi uchod, codir £25 yr awr (pro rata)
Ansicr o’r hyn yr ydych ei angen? Galwch mewn am goffi a sgwrs anffurfiol gyda’r tîm … byddem yn fwy na pharod i helpu!
Y Print Bach!
Mae ein lle yn y gweithdy yn gyfyngedig felly mae’n rhaid i feiciau gael ei gasglu o fewn tri ddiwrnod o gwblhau’r gwaith neu, fel arall, bydd ffi casglu hwyr o £5 y dydd yn cael ei godi.
Nid ydym yn gwasanaethu beiciau dros y penwythnos (oni bai eich bod wedi trefnu ymlaen llaw).
Oherwydd galwadau cynyddol ar ein gweithdy, bydd amserau aros yn amrywio yn ystod y Pasg a misoedd yr haf.
Gall beiciau trydan/beiciau wedi’i hanelu â both creu costau llafur ychwanegol.