Bydd yr Antur yn cynnal dwy sêl fawr ddydd Sadwrn yma, sef 30 Ionawr – un yn ein siop dodrefn a dillad ar Stad Cibyn yng Nghaernarfon, a’r llall yn ein siop feics, Beics Menai, ar y Cei Llechi wrth ymyl y castell.
Bydd yna lwyth o gynigion anhygoel, yn cynnwys hyd at 50% i ffwrdd ar ddodrefn ail-law, 15% i ffwrdd ar ddillad beicio, a 20% i ffwrdd ar helmedau. Bydd y Warws ar agor o 10.00 y.b. tan 2.00 y.p., a Beics Menai ar agor o 10.00 y.b. tan 4.00 y.p. Felly digon o amser i chi fachu bargen!