Heddiw, wnaeth pawb yn yr Antur roi croeso cynnes iawn i Rhian Huws Williams, Prif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru, a ddaeth i’r prif safle yn Waunfawr i agor ein cyfleuster a chartref newydd ar gyfer unigolion ag anghenion mwy cymhleth, sef Capel Bethel.
Gyda chymorth grant gan Cyfenter, a chefnogaeth Menter Môn, dyma’r cam cyntaf o brosiect newydd uchelgeisiol i ni. Nid yn unig yw’r Antur yn anelu at ddarparu gwell cyfleusterau i unigolion ag anableddau dysgu a chorfforol, ond hefyd rydym am greu clwstwr o dai â chymorth o fewn y pentref, gan alluogi gofal diogel a chyfarwydd o fewn y gymuned.