Ddydd Llun 10 Medi, cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol Antur Waunfawr. Roedd yn gyfarfod llwyddiannus a gynhaliwyd yn adeilad Ysgubor Fawr yr Antur, gyda phresenoldeb gan aelodau’r Bwrdd a staff Antur.
Bu’n flwyddyn brysur a llwyddiannus i Antur Waunfawr; rydym ni nawr yn rheoli 15 o fusnesau, ac mae gennym nifer o brosiectau newydd ar y gweill. Ar hyn o bryd mae Antur Waunfawr yn cyflogi dros 100 o staff ac yn cefnogi 67 o unigolion ag anableddau dysgu. Mae Iechyd a Lles yn ganolog i’n gwasanaethau, ac yn ystod ein prosiect Anturio Ymlaen a ariennir gan y Gronfa Gofal Integredig, rydym wedi cynnal 37 o weithgareddau gwahanol, gan gynnwys beicio, cerdded, dosbarthiadau ffitrwydd, yoga a therapi adlam.
Rydym yn rheoli 9 tŷ preswyl, ac yn 2018 cwblhawyd 2 dŷ preswyl newydd ar ein safle yn Waunfawr, sy’n gartref i bedwar unigolyn ag anableddau dysgu sy’n derbyn cymorth 24 awr.
Mae byngalo gwyliau hygyrch hefyd yn cael ei hadeiladu ar ein safle yn Waunfawr, ac rydym wedi derbyn arian gan Arloesi Gwynedd Wledig i gynnwys eitemau digidol yn y byngalo a fyddai’n caniatáu i berson ag anableddau fyw’n fwy annibynnol. Yn dilyn grant o £20,000 gan Sefydliad ‘Clothworkers Foundation’, bydd y byngalo yn cael ei ddodrefnu i safon 4*, ac mae artist tecstilau lleol, Cefyn Burgess, yn gweithio gyda ni i ddarparu dodrefn meddal o safon.
Mae hyfforddiant a phrofiad gwaith yn bwysig i’r Antur. Yn y flwyddyn 2017-18 darparwyd 2640 o oriau gwirfoddoli, 30 lleoliad gwaith a 1756 o oriau profiad gwaith, yn ogystal â’n gwaith gyda unigolion ag anableddau dysgu.
Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gynaliadwyedd a bod yn sefydliad sy’n parchu’r amgylchedd. Yn 2017-18, fe wnaeth ein safle ailgylchu Caergylchu drin 1056 tunnell o blastig ac ailgylchu dros 400 tunnell o bapur. Mae ein safle Warws Werdd hefyd wedi arbed 305 tunnell o ddillad a dodrefn rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Rydym yn rheoli 7 acer o dir ac yn parhau i ddarparu cynnyrch cartref i Gaffi Blas y Waun a’n cartrefi preswyl. Yn 2017-18 fe wnaethon ni werthu cynnyrch mewn nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys Gŵyl Fwyd Caernarfon, yn ogystal â’n Ffair Haf a Ffair Nadolig Miri Siôn Corn.
Mae ein prosiect beicio yn ehangu, ac yn 2018 buddsoddodd yr Antur £90,000 mewn safle newydd ym Mhorth yr Aur, Caernarfon.
Mae gennym lawer o gynlluniau cyffrous ar gyfer 2018-2020, gan gynnwys datblygu ein prosiect Beics Antur ym Mhorth yr Aur, gan ddarparu cyfleoedd beicio a ffitrwydd cynhwysol i’r gymuned leol ac i ymwelwyr â’r ardal.