Mae’r Antur yn credu fod gan unigolion ag anableddau dysgu’r hawl i fyw bywyd llawn a chymryd rhan ym mhob gweithgaredd fel pawb arall. Er bod pawb yn wahanol, mae rhai anghenion creiddiol yn bwysig i bawb.
Yn bwysig i’r rhan fwyaf ohonom mae:
- Bod yn rhan o’r gymuned
- Perthynas dda gyda theuluoedd a ffrindiau
- Creu perthnasau
- Dysgu sgiliau newydd a chael profiadau newydd
- Digon o ddewis
- Statws a chael eu parchu
- Cael eu trin fel unigolyn
Lle yn bosib, mae’r staff yn camu’n ôl a gadael i’r unigolion sy’n derbyn gwasanaeth wneud gymaint ag sydd bosibl dros eu hunain. Lle mae angen cefnogaeth gyda thasgau, mae’r staff yn rhoi’r lefel cywir o gefnogaeth sydd ei angen, ac yn ofalus i beidio â rhoi gormod neu wneud pethau dros yr unigolion os nad oes angen.
Rydym hefyd yn defnyddio cefnogaeth weithgar i helpu’r unigolion gyrraedd eu dyheadau.
Cefnogaeth yn y cartref
Mae Cartrefi’r Antur yn cefnogi unigolion yn eu cartrefi eu hunain, ac yn rhoi cyfle i bob unigolyn gymryd rhan lawn yn y gwaith o redeg eu cartref. Mae hyn yn cynnwys:
- Datblygu a gwella sgiliau bywyd annibynnol yn y cartref
- Cefnogaeth lawn â materion ariannol
- Cymorth gyda siopa a ‘Bwyta’n Iach’