Ein gwasanaethau
- Mae Llarpio Antur yn darparu gwasanaeth llarpio cyfrinachol i fusnesau ac unigolion yng Ngwynedd, Ynys Môn ac ar hyd Arfordir Gogledd Cymru.
- Rydym yn arbenigo mewn llarpio papur cyfrinachol, a hefyd llarpio tapiau a disgiau.
- Rydym yn dinistrio gwastraff cyfrinachol i fewn i stribedi 10mm.
- Rydym hefyd yn ailgylchu papurau swyddfa gyffredinol sydd ddim yn gyfrinachol.
Ein harbenigedd
- Rydym yn gwmni arbenigol gyda 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ailgylchu.
- Rydym yn cynnig gwasanaeth Llarpio cyfrinachol oddi ar safle diogel, gyda chamerâu CCTV yn gwarchod y safle.
- Cyflawnir yr holl waith gan ein staff profiadol, a archwiliwyd gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.
- Mae’r deunydd yn mynd yn syth i fyrnwr ar ôl bod yn ein llarpiwr diwydiannol cyn mynd i’r felin ar gyfer ei droi’n bapur tusw.
Gwasanaeth teilwredig a phwrpasol
- Rydym yn darparu gwasanaeth wedi teilwra i’ch anghenion chi, a gallwn gasglu un sach neu gannoedd o sachau gennych.
- Casgliadau o swyddfeydd neu gartrefi, a dim lleiafswm ar gyfer y gwasanaeth casglu
- Casgliadau un-tro neu reolaidd – rhowch ganiad i ni!
- Gallwn ddarparu tystysgrif llarpio ar gyfer eich cofnodion.
Cefnogwch fenter gymdeithasol leol
- Mae Llarpio Antur yn rhan o deulu Antur Waunfawr, sy’n darparu cyfleoedd gwaith i oedolion gydag anableddau dysgu.
- Wrth ddefnyddio Llarpio Antur, rydych chi’n cynnal swyddi lleol, yn lleihau ôl-troed carbon.
- Rydym yn falch i ddarparu gwasanaeth dwyieithog gyda staff sy’n siarad Cymraeg.
- Gallwch chi fod yn sicr bod eich dogfennau yn cael eu trin gan arbenigwyr yn y maes.