Mae’r Antur yn edrych ‘mlaen cael stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern, rhwng Awst 5-12. Bydd gennym 3 stondin ar y maes (rhifau 301-303), felly dewch draw i ddweud helo!
Bydd cyfle i chi cael paned am ddim, a bydd llawer o gynnyrch cartref ar werth yn cynnwys cacennau, bara brith, jams, siytnis a cassis cyrens duon. Bydd hefyd amrywiaeth mawr o grefftau cartref, i gyd wedi ei wneud gan unigolion yn yr Antur, a hefyd phlanwyr llechi i archebu, wedi ei wneud â llaw.
Bydd Beics Menai hefyd efo amrywiaeth o feics i arddangos, a bydd dodrefn Warws Werdd ar y stondin.
Mae hefyd amserlen prysur o ddigwyddiadau trwy’r wythnos:
Dydd Llun, 07 Awst
2:30-3:15yp: Pel-droed cerdded ar y maes chwaraeon, gyda Osian Roberts.
Dydd Mawrth, 08 Awst
1:30-2:30: Beicio addasedig ar y maes chwaraeon
1-4yp: Prynhawn gyrfaeodd
3yp: Yr Archdderwydd Geraint Lloyd Owen yn ymweld
Dydd Mercher, 09 Awst
1:30-2:30: Sesiwn canu
Dydd Iau, 10 Awst
11:30-12:30: Sesiwn canu
Croeso cynnes i bawb – edrych ymlaen gweld chi yna!