Mae Antur Waunfawr wedi derbyn adroddiad disglair yn dilyn ei arolygiad diweddaraf gan yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).
Roedd yr arolygiad, a gynhaliwyd ar 19 Medi 2016, yn cwmpasu tair thema; ansawdd bywyd; ansawdd y staffio ac ansawdd yr arweinyddiaeth a’r rheolaeth.
Cafodd ansawdd bywyd yn Antur ganmoliaeth uchel, gyda’r arolygydd yn nodi bod ‘pobl yn cael eu galluogi i fyw bywyd gweithredol, gan gadw cymaint o annibyniaeth ag sy’n bosibl, ac yn gallu gwneud dewisiadau mewn bywyd bob dydd.’
Canfu’r arolygydd bod ‘staff yn trin yr unigolyn ag urddas a pharch, ac yn gallu parchu ethnigrwydd a dewisiadau iaith gyntaf drwy siarad ar unigolyn yn Gymraeg.’
Roedd yr arolygydd hefyd yn canmol natur ‘person-ganolog’ y ffeiliau gofal, yn ogystal â’r integreiddio o’r unigolion o fewn y gymuned, gan nodi bod ‘ffrindiau a theuluoedd yn ymweld; mae hwn yn rhoi ymdeimlad o berthyn, cynhesrwydd ac ymlyniad iddo.’
Cafodd yr Antur hefyd ei ganmol am y bwyslais uchel ar anghenion iechyd a lles, gyda’r arolygydd yn nodi bod apwyntiadau gofal iechyd yn cael eu dilyn i fyny gyda ‘canlyniadau a chyfarwyddiad manwl ar gyfer staff’ a hefyd ‘rhoddir cymorth i wneud dewisiadau bwyd iach.’
Nodwyd yr ansawdd uchel o staffio, gyda’r ‘gydberthynas dda’ rhwng y staff a’r person gofal yn cael ei amlygu gan yr arolygydd, a wnaeth sylwadau hefyd fod y ‘ffeiliau staff yn dangos tystiolaeth bod gweithdrefnau recriwtio a chyflogaeth dda yn bodoli o fewn yr asiantaeth.’
Mae ansawdd arweinyddiaeth a rheolaeth yr Antur hefyd yn cael ei ganmol, gyda’r arolygydd yn dweud: ‘Mae cofnodion cyfarfodydd y staff yn dangos bod unrhyw broblemau, newidiadau o ran anghenion gofal, ac unrhyw syniadau newydd yn cael eu trafod yn agored.’
Roedd yr arolygydd hefyd yn amlygu’r arferion da a ddefnyddir yn ystod rheoli meddyginiaethau, gyda ‘gwybodaeth ynglŷn â phob cyffur, ei ddiben, a’r sgil-effeithiau yn cael ei chofnodi’n glir yn y ffeil ofal.’
I gloi, nododd yr arolygydd fod Antur Waunfawr yn parhau i ddarparu gofal o ansawdd da, sydd wedi’i deilwra i’r unigolyn, heb unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio i’w hadrodd.
Dywedodd Stephen Goodwin, Uwch Reolwr Gwasanaethau yn Antur Waunfawr: ‘Diolch yn fawr iawn i’r tîm am gynnal gwasanaeth o safon mor uchel.’
Cliciwch yma i weld yr adroddiad llawn.