Blwyddyn Newydd Dda i chi!
‘Rydym am ddechrau gydag enghraifft o ailgylchu creadigol iawn!
Wnaeth rhai o ddisgyblion Blwyddyn 8 o Ysgol Botwnnog ddefnyddio pentwr o hen jîns denim o’n Warws Werdd i ddylunio a chreu teganau meddal hyfryd, a rhoi rhai ohonynt fel anrhegion Nadolig i deulu a ffrindiau! Gwych!