Rydym ni yn Antur yn hynod falch o gyhoeddi ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cynnal Cymru eleni!
Cynnal Cymru yw’r sefydliad mwyaf blaenllaw ar gyfer datblygu cynaliadwy yng Nghymru, ac maent yn tynnu sylw at, canmol ac arddangos y nifer o bobl a sefydliadau yng Nghymru sy’n gwneud pethau mawr dan ymbarél datblygu cynaliadwy. Mae’r Gwobrau wedi cael eu sefydlu i roi clod i’r enghreifftiau gorau o’u math, traws-sector, ledled Cymru.
Cynhelir y seremoni Wobrwyo yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar y 19 Tachwedd 2015. Yn y cyfamser, byddem yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth ac ychydig funudau o’ch amser … wnewch chi plîs bleidleisio i ni yn fan hyn: http://www.cynnalcymru.com/cy/sustainable-social-enterprise/