Braf oedd cael croesawu’r Cynghorydd Sion Jones i’r Antur ddoe, a chael dangos rhai o’n brosiectau iddo.
Cafodd Sion daith o gwmpas ein safle yn Waunfawr i weld y criw yn creu crefftau, a hefyd gweld yr holl newidiadau sydd wedi digwydd gyda’n prosiect tyfu bwyd ac yn ein parc natur. Roedd hefyd digon o amser iddo fwynhau paned a chacen yng Nghaffi Blas y Waun, lle wnaeth Bryn, Menna, Geraint Strello o BT a Llio trafod y buddion o gael Wi-fi yn ein caffi gydag ef!