Fe wnaeth y glaw cadw draw pan gynhaliwyd ffair haf flynyddol yr Antur ar ddechrau’r mis, ac fe wnaeth pawb fwynhau diwrnod o hwyl i fyny ar y prif safle yn Waunfawr!
Bob blwyddyn, mae’r Antur yn gwahodd pobl leol i ymuno â’r tîm am ddiwrnod o adloniant a hwyl. Agorwyd y digwyddiad gyda pherfformiad arbennig gan Ddoniau Cudd o’r ganolfan gerddoriaeth William Mathias.
Drwy gydol y prynhawn, cafwyd reidiau mulod, gweithdai swigod a sgiliau syrcas gyda chwmnïau lleol, Dr Zigs a Cimera, ac amrywiaeth o stondinau yn gwerthu crefftau a chynnyrch ffres. Roedd Joe wrth law yn y polytunnel yn gwerthu amrywiaeth o doriadau, ac roedd hefyd ar gael am dipyn o gyngor garddio. Roedd Blas y Waun caffi hefyd ar agor drwy’r dydd, yn cynnig bwyd cartref blasus, gan ddefnyddio llysiau a pherlysiau ffres Joe! Diwrnod hyfryd!