Mae prosiect newydd Beicio i Bawb yn cyflwyno amrywiaeth o sesiynau a gweithgareddau beicio fforddiadwy i drawstoriad o’r gymdeithas yng Ngwynedd gan gynnwys disgyblion ysgol, pobl ifanc difreintiedig, henoed, unigolion ag anableddau dysgu, grwpiau corfforaethol, a drwy bresgripsiwn cymunedol.
Gyda chefnogaeth gan Gronfa Ffyniant Cyffredin, prif nod y prosiect hwn yw hyrwyddo Iechyd a Llesiant a Theithio Llesol Cymru drwy wella mynediad i feicio hygyrch a fforddiadwy, gwella sgiliau, magu hyder ac annog pobol o bob oedran a gallu yn ein cymdeithas i feicio.
Felly cysylltwch â Beics Antur er mwyn archebu beic am bris rhesymol.
Sgiliau Beicio – Rydym yn gweithio gydag ysgolion cynradd ar draws Gwynedd i ddatblygu sgiliau beicio disgyblion, yn y sesiynau yma byddwch yn dysgu am sut i ofalu am eich beics, dysgu sut i reidio beic yn ddiogel a llawer mwy. I ddysgu mwy am ein sesiynau sgiliau beicio cliciwch yma
Galluogodd gefnogaeth ariannol gan Gronfa Ffyniant Cyffredin i ni archebu offer newydd i ddiogelu ein fflyd yn ogystal ag ehangu ein fflyd gyda beics ychwanegol, megis beics plant, e-feics a beics addasedig, gweler lluniau isod.