Mae ein Prif Weithredwraig, Menna Jones, wedi bod yn rhan o Weledigaeth a Chynllun Gweithredu ‘Trawsnewid Cymru Trwy Fenter Gymdeithasol’ a lansiwyd yr wythnos diwethaf, ac mae’n amlinellu fframwaith ar sut i roi’r sector Menter Gymdeithasol ar flaen y gad o ran adferiad economaidd yng Nghymru.
Wedi’i lunio ar y cyd gan fentrau cymdeithasol ac asiantaethau cymorth mentrau cymdeithasol gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae ‘Trawsnewid Cymru drwy fentrau cymdeithasol’ yn amlinellu gweledigaeth uchelgeisiol a fydd yn gweld mentrau cymdeithasol yn dod yn fodel busnes o ddewis yng Nghymru erbyn 2030 ar gyfer pobl a chymunedau gan ddarparu atebion i heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Mae’r cynllun llawn i’w ddarllen yma.