Mae Warws Werdd, safle ailddefnyddio dodrefn a dillad yng Nghaernarfon sy’n rhan o deulu Antur Waunfawr, yn arddangos gwaith celf newydd lliwgar yn y siop, ac mae’r artist angen eich help chi i’w enwi!
Mae Reece Ogden, 19, newydd gwblhau ei gwrs sylfaen mewn celf yng Ngholeg Menai gyda rhagoriaeth, ac arddangoswyd ei waith yn arddangosfa diwedd blwyddyn y coleg ym Mharc Menai.
Mae ei ddarn o waith olaf bellach yn cael ei arddangos yn y Warws Werdd, ac mae’n gefndir lliwgar i’r dodrefn a’r dillad ail-law sydd ar werth yn y siop. Defnyddiodd Reece, sy’n byw yng Nghaernarfon, ddeunyddiau wedi’u hailgylchu i greu ei waith celf, gan gynnwys paent wedi’i ailgylchu a chynfasau ail-law a roddwyd i’r Warws Werdd.
“Ni welais y pwynt mewn prynu cynfasau newydd pan fydd cymaint o rai hen yn mynd i wastraff, dyna pam y penderfynais ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu,” meddai Reece.
“Hefyd, rwy’n hoff o siapiau a meintiau diddorol y cynfasau, a sut maen nhw i gyd yn ffitio gyda’i gilydd i ffurfio un siâp afreolaidd. Mae’n gwneud fy ngwaith yn wahanol i waith bawb arall ac yn ychwanegu dimensiwn arall.
“Rydw i wrth fy modd yn defnyddio llawer o liw; Mae gen i ddiddordeb yng nghelf plant ac mae elfen ddychmygol a swrrealaidd iawn i’m gwaith.”
Mae’r gwaith celf yn ddienw ar hyn o bryd, ac mae Reece yn gobeithio y bydd aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld â Warws Werdd yn gallu cynnig enw addas i’r darn. Gall ymwelwyr â’r siop ysgrifennu eu hawgrymiadau i lawr, a bydd y person sy’n dewis yr enw buddugol yn derbyn taleb gwerth £50 i’w wario yn Warws Werdd.
Mae Reece, a fydd yn astudio darlunio ym Mhrifysgol Cheltenham ym mis Medi, yn hapus ei fod ei waith yn cael ei arddangos yn y fenter gymdeithasol.
“Mae’r Warws yn lle gwych i bobl weld fy ngwaith; mae llawer o bobl yn ymweld â’r siop, a gobeithio ei bod yn rhoi cipolwg ar y ffordd rydw i’n meddwl ac yn gweld, ac yn bwynt siarad i gwsmeriaid.”
Dywedodd Haydn Jones, rheolwr ailgylchu Antur Waunfawr: “Rydym yn falch iawn o allu cefnogi artist ifanc, lleol. Mae gwaith Reece yn cyd-fynd yn wych yn y Warws Werdd; mae’n hwyl, yn lliwgar ac mae ganddo ffocws cryf hefyd ar ailgylchu ac ailddefnyddio. Mae’r unigolion gydag anableddau dysgu sy’n gweithio yn y siop hefyd yn hoff iawn o’r gwaith.
“Rydym yn falch bod Reece wedi gallu gwneud defnydd mor ddychmygus o’r holl gynfasau ail law, ac ni allwn aros i weld yr enwau y mae ein cwsmeriaid yn eu hawgrymu ar gyfer ei waith celf!”
I weld gwaith Reece, ac am eich cyfle i ennill taleb Warws Werdd gwerth £50 trwy awgrymu enw ar gyfer y darn o gelf, ewch draw i’r Warws Werdd, Stâd Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, LL55 2BD.