Datblygu'r unigolyn a'r gymuned i'w llawn botensial...
"Dros y blynyddoedd sylweddolais pa mor bwysig yw gofalu fod pob aelod o gymdeithas yn cael ei ystyried fel unigolyn ac nid fel aelod o garfan arbennig o gymdeithas. Byrdwn fy mhregeth yw mai trwy roi gwasanaeth i’w gymuned y mae person yn ennill ei blwyf fel dinesydd.
Mae sicrhau hawliau yn bwysig ond mae ysgwyddo cyfrifoldeb yn fil-gwaith pwysicach. Mae’n ddyletswydd foesol arnom i’w wneud yn bosibl i’n cyd-ddinasyddion, waeth faint yw eu gallu, i ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw."
R. Gwynn Davies - Sefydlydd Antur